EXCITING JOB OPPORTUNITY

COMMUNITY OUTREACH WORKER MID BORDER ARTS, PRESTEIGNE

This position has been made possible thanks to a grant from The National Lottery Community Fund 

Contract Type: freelance – 6 month contract
Salary: £14 per hour 
Hours per week: Flexible. There is funding for 178hrs (22days) spread over the length of the contract. 
Working pattern: Flexible. There is likely to be occasional evening and weekend work and attendance at some MBA trustee meetings will be required.
Accountable to: MBA Trustees 
Reports to: Chair

Application is by CV and covering letter 
Deadline: Friday13th September 2024 
Interviews: Thursday19th September 2024 (evening) Please let us know when applying if you are not available on this date so an alternative can be arranged if necessary.  
Equal opportunities:  MBA are committed to promoting equality, diversity, and inclusion in all aspects of our work. Our aim is to ensure that everyone, regardless of their background, has equal access to opportunities within our organisation.

OVERVIEW OF MID BORDER ARTS

Mid Border Arts (MBA) promotes a wide range of arts activities in Presteigne Assembly Rooms. It aims to promote arts, education and community activities in the Mid Wales border area, integrating them into the community life of Presteigne and the surrounding area. The programme of events runs throughout the year with folk and classical concerts, cabarets, world music, theatre shows, literary talks, art exhibitions and films. There are also a number of regular workshops, including a community orchestra, two community choirs, writers’ group, discussion groups and yoga classes.

FACILITIES

The Assembly Rooms is an elegant Victorian building. The room upstairs has a domed ceiling and six large windows. It is well equipped with moveable raked seating for up to 100 people; theatre lighting, sound equipment, Blu-ray film projector and large screen.  It also has a Steinway piano and excellent acoustics. Downstairs, the newly decorated Back Room is ideal for language and art classes; meetings and AGMs, workshops and coffee mornings. There is a kitchenette, lift and toilet with disabled access.

THE ORGANISATION

MBA is run by a board of eight volunteer trustees and one paid part-time Arts Co-ordinator. The purpose of the organisation is to provide a mixed programme of arts events and maintain the interior of the Assembly Rooms as a community facility. MBA is dependent on, and indebted to, a large number of volunteers.

Current partners include: Presteigne Screen, Borderlines Film Festival, Presteigne Festival, Sheep Music.

THE ROLE OF THE COMMUNITY OUTREACH WORKER  

The Outreach Worker is expected to work with the Arts Coordinator and Trustees to create a welcoming, inclusive, safe and vibrant space that brings people together. We specifically want the outreach worker to consult and engage with a broad range of groups in the community to diversify and broaden the organisations and individuals accessing our venue.

There is scope for developments such as: activities for preschool children; enhanced links with schools; events for the older retired members of our community as well strengthening links with existing groups within the town.

Key Duties and Responsibilities 

Community Engagement and Consultation

  • Create and nurture positive relationships between MBA and local community groups, stakeholders, schools, artists and hirers.

  • To facilitate a robust Community Engagement programme. 

  • Assist with the coordination and delivery of consultation and outreach events.

  • Support MBA with the recruitment of new volunteers. 

Evaluation and Monitoring  

  • Produce evaluation reports at review points throughout the life of the contract.

COMMUNITY OUTREACH WORKER  - PERSON SPECIFICATION 

Educational qualifications 

Essential - Good general education: 5 GCSEs or equivalent including Maths and English. High level of literacy and numeracy.

-

Work Experience 

Essential - Evidence of ability to prioritise work, set targets, and achieve positive outcomes. 
Evidence of ability to organise and manage time and resources effectively. 
An understanding of Health & Safety.

Desirable - Experience working on community and arts projects. 
Experience working in the local area. 
Previous experience. Working with community groups and voluntary organisations. 
Experience of small-scale funding. 

-

Communication

Essential - Excellent oral and written communication skills.  
Including an ability to relate to, and communicate with a wide range of stakeholders. 
Experience hosting in person and online meetings/events.
Experience using social media platforms.

Desirable - Experience producing press and marketing materials. 

-

Information Technology 

Essential - Experience with Microsoft Office applications. 

-

Personal Attributes 

Essential - A passion for community engagement and inclusivity.
Able to work on own initiative without supervision and within a small team environment. 
Flexible and adaptable.

Desirable - An interest in the arts.
An understanding of equal opportunities. 

CYFLE CYFFROUS AM SWYDD

GWEITHIWR ALLGYMORTH CYMUNEDOL I MID BORDER ARTS, LLANANDRAS 

Mae creu'r swydd hon wedi bod yn bosibl diolch i grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol 

Math o Gontract: Llawrydd – contract 6 mis
Cyflog: £14 yr awr 
Nifer yr oriau bob wythnos: Hyblyg. Mae cyllid ar gyfer 178 awr (22 diwrnod) dros gyfnod y contract. 
Patrwm gwaith: Hyblyg. Mae'n debygol y bydd gwaith achlysurol gyda'r nos ac ar benwythnosau a bydd angen mynychu rhai cyfarfodydd ymddiriedolwyr MBA.
Yn atebol i: Ymddiriedolwyr MBA 
Yn adrodd i’r: Cadeirydd

Cais trwy CV a llythyr eglurhaol 
Dyddiad cau: Dydd Gwener 13 Medi 2024 
Cyfweliadau: Dydd Iau 19 Medi 2024 (min nos)
Rhowch wybod i ni wrth ymgeisio os na fyddwch ar gael ar y dyddiad hwn er mwyn i ni drefnu dyddiad amgen os oes angen gwneud hynny.  
Cyfleoedd cyfartal:  Mae MBA wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd ar ein gwaith. Ein nod yw sicrhau bod pawb, waeth beth fo'i gefndir, yn cael mynediad cyfartal i gyfleoedd yn ein sefydliad.

TROSOLWG O MID BORDER ARTS

Mae Mid Border Arts (MBA) yn hyrwyddo ystod eang o weithgareddau celfyddydol yn Ystafelloedd Cynnull Llanandras. Ei nod yw hyrwyddo celfyddydau, addysg a gweithgareddau cymunedol yn ardal ffin Canolbarth Cymru, gan eu hintegreiddio i fywyd cymunedol Llanandras a’r cyffiniau. Cynhelir rhaglen digwyddiadau drwy’r flwyddyn gan gynnwys cyngherddau gwerin a chlasurol, cabarets, cerddoriaeth byd, sioeau theatr, sgyrsiau llenyddol, arddangosfeydd celf a ffilmiau. Mae yna hefyd nifer o weithdai rheolaidd, gan gynnwys cerddorfa gymunedol, dau gôr cymunedol, grŵp awduron, grwpiau trafod a dosbarthiadau yoga.

CYFLEUSTERAU

Mae adeilad Fictoraidd cain yn gartref i’r Ystafelloedd Cynnull. Mae gan yr ystafell i fyny'r grisiau nenfwd cromennog a chwe ffenestr fawr. Mae yma offer da gyda seddi symudol ar oleddf ar gyfer hyd at 100 o bobl; goleuadau theatr, offer sain, taflunydd ffilm Blu-ray a sgrin fawr. Yn ogystal â hynny mae yma biano Steinway ac acwsteg ardderchog. I lawr y grisiau, mae'r Ystafell Gefn sydd newydd ei haddurno'n ddelfrydol ar gyfer dosbarthiadau iaith a chelf; cyfarfodydd a Chyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol, gweithdai a boreau coffi. Mae yma gegin fach, lifft a thoiled gyda mynediad i'r anabl.

Y SEFYDLIAD

Bwrdd o wyth o ymddiriedolwyr gwirfoddol ac un Cydlynydd Celfyddydau rhan-amser cyflogedig sy’n rhedeg MBA. Diben y sefydliad yw darparu rhaglen gymysg o ddigwyddiadau celfyddydol a chynnal y tu mewn i'r Ystafelloedd Cynnull fel cyfleuster cymunedol. Mae MBA yn ddibynnol ar, ac yn ddyledus i, nifer fawr o wirfoddolwyr.

Ymhlith y partneriaid presennol mae: Presteigne Screen, Gŵyl Ffilm Borderlines, Gŵyl Llanandras, Sheep Music.

RÔL Y GWEITHIWR ALLGYMORTH CYMUNEDOL

Disgwylir i’r Gweithiwr Allgymorth weithio gyda’r Cydlynydd Celfyddydau a’r Ymddiriedolwyr i greu gofod croesawgar, cynhwysol, diogel a bywiog sy’n dod â phobl ynghyd. Rydym yn benodol am i'r gweithiwr allgymorth ymgynghori ac ymgysylltu ag ystod eang o grwpiau yn y gymuned i amrywio ac ehangu'r sefydliadau a'r unigolion sy'n defnyddio ein lleoliad.

Mae lle i ddatblygiadau megis: gweithgareddau ar gyfer plant cyn oed ysgol; gwell cysylltiadau ag ysgolion; digwyddiadau ar gyfer aelodau hŷn ein cymuned sydd wedi ymddeol yn ogystal â chryfhau cysylltiadau â grwpiau presennol yn y dref.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau  

Ymgysylltu ac Ymgynghori â'r Gymuned

  • Creu a meithrin perthnasoedd cadarnhaol rhwng MBA a grwpiau cymunedol lleol, rhanddeiliaid, ysgolion, artistiaid a llogwyr.

  • Hwyluso rhaglen Ymgysylltu Gymunedol gadarn. 

  • Cynorthwyo i gydlynu a darparu digwyddiadau ymgynghori ac allgymorth.

  • Cefnogi MBA gyda recriwtio gwirfoddolwyr newydd. 

Gwerthuso a Monitro  

  • Cynhyrchu adroddiadau gwerthuso ar adegau adolygu drwy gydol oes y contract.

GWEITHIWR ALLGYMORTH CYMUNEDOL - MANYLEB PERSON 

Cymwysterau addysgol

Hanfodol - Addysg gyffredinol dda 5 TGAU neu gyfwerth, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg. Lefel uchel o lythrennedd a rhifedd.

-

Profiad Gwaith 

Hanfodol - Tystiolaeth o’r gallu i flaenoriaethu gwaith, gosod targedau, a chyflawni canlyniadau positif. 
Tystiolaeth o allu i drefnu a rheoli amser ac adnoddau yn effeithiol. 
Dealltwriaeth o Iechyd a Diogelwch.

Dymunol - Profiad o weithio ar brosiectau cymunedol a chelfyddydol. 
Profiad o weithio yn yr ardal leol. 
Profiad blaenorol. Gweithio gyda grwpiau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol.
Profiad o ariannu ar raddfa fach. 

-

Cyfathrebu

Hanfodol - Sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac ar bapur.  
Gan gynnwys y gallu i uniaethu a chyfathrebu ag ystod eang o randdeiliaid. 
Profiad o gynnal cyfarfodydd / digwyddiadau yn bersonol ac ar-lein.
Profiad o ddefnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol

Dymunol - Profiad o gynhyrchu deunyddiau i'r wasg a marchnata. 

-

Information Technology 

Hanfodol - Profiad gyda rhaglenni Microsoft Office. 

-

Personal Attributes 

Hanfodol - Brwdfrydedd dros ymgysylltu a chynhwysiant cymunedol
Yn gallu gweithio ar eich menter eich hun heb oruchwyliaeth ac o fewn amgylchedd tîm bach. Hyblyg ac addasadwy

Dymunol - Diddordeb yn y celfyddydau.
Dealltwriaeth o gyfle cyfartal.